Mae disgwyl i wyth o’r 30 o staff yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth golli eu swyddi.

Mewn llythyr at fyfyrwyr cyn y Dolig, fe ddywed Pennaeth yr Adran, yr Athro Richard Beardsworth, y bydd y gweithwyr ar y clwt “yn ôl pob tebyg” o fewn y “misoedd nesaf”.

Ond roedd yn mynnu na fydd y cwtogi ar staff yn cael unrhyw effaith ar ansawdd dysgu ac ymchwil yr adran, ac mai ei bryder pennaf yw “cynnal ein safonau rhagorol”.

Ac mae Prifysgol Aberystwyth wedi dweud wrth golwg360 bod y “camau hyn yn angenrheidiol er mwyn gwneud y Brifysgol yn fwy gwydn” wrth iddyn nhw geisio arbed miliynau o bunnoedd y flwyddyn.

Ymateb myfyriwr

Roedd darllen y llythyr yn “syndod” i un o fyfyrwyr yr adran sy’n credu y bydd y bygythiad yn creu “ansicrwydd” o fewn yr adran.

“Dw i ddim yn gwybod os ydyn nhw wedi penderfynu pwy sy’n mynd i golli swydd yn barod,” meddai Elfed Wyn Jones, “neu os ydyn nhw wedi penodi rhai’n barod. Ond pan maen nhw’n dweud nad ydy o ddim yn mynd i effeithio neb, mae’n rhoi llawer iawn o staff mewn ansicrwydd.

“Os bydd y pryder yma o golli swyddi yn effeithio ar y darlithwyr, yna fe fydd yn effeithio ar y bobol hynny sy’n cael eu dysgu hefyd.”

Mae Elfed Wyn Jones, sydd ar hyn o bryd yn y drydedd flwyddyn, yn dwued bod yr adran yn gweithio’n “andros o effeithlon” ar hyn o bryd, gyda phob darlithydd yn arbenigwyr mewn ystod eang o feysydd gwahanol.

“Mae’r ffyrdd mae pethau’n cael eu dysgu yn anhygoel”, meddai.

“Mae’r darlithwyr i gyd yn dysgu pethau gwahanol i chi … os yw un o’r rheina’n mynd, ry’ch chi’n mynd i golli allan ar ryw agwedd benodol.”

Y llythyr at y myfyrwyr

Dyma’r llythyr gan yr Athro Richard Beardsworth at fyfyrwyr yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol:

Annwyl Fyfyrwyr, 

Yn ddiweddar cawsoch gyfathrebu gan Brifysgol Aberystwyth ac Undeb Myfyrwyr y Brifysgol i ddweud bydd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, yn ôl pob tebyg, yn destun o uchafswm o ostyngiadau 8.1 yn staff o fewn y misoedd nesaf (ar sail 30.1 ar hyn o bryd). Rhagwelir y bydd y gostyngiad hwn o fewn Cynllun Strategol y Brifysgol (2017-2019) a fydd cyn bo hir yn rhoi ei adrannau a’r Brifysgol ’model busnes’ ar gyfer y dyfodol. 

Yn dilyn y cyfathrebu, yr wyf yn awyddus i bwysleisio, fel Pennaeth Adran, na fydd unrhyw gynlluniau gradd yn cael eu heffeithio gan y newidiadau posibl, ac y bydd ein hymrwymiad i ymchwil ac addysgu rhagorol yn cael eu cadw. Yn wir, gyda’r canmlwyddiant yr adran a disgyblaeth cysylltiadau rhyngwladol, mae’n peri pryder ar unwaith i mi ein bod yn cynnal ein safonau rhagorol, fel y gallwn ymdrin â dathliadau canmlwyddiant a degawdau presennol a’r dyfodol i raddedigion gwleidyddiaeth ryngwladol gyda hyder a gwahaniaeth.

Fe’ch gwahoddir i roi adborth i Swyddfa’r Is-ganghellor (gweler y dolenni ar y we yn cyfathrebu’r Brifysgol), a gallwch bob amser ofyn am apwyntiad gyda mi ym mis Ionawr. Byddaf yn hapus i wrando ac ymateb i unrhyw bryder. Yr wyf i ffwrdd ar wyliau blynyddol o Ddydd Llun 18 Rhagfyr i Ddydd Iau 4ydd Ionawr. Byddaf yna yn gofyn i chi cadw cyfathrebu â mi tan ar ôl Ionawr 4ydd. 

Diolch.

Dymuniadau gorau ar gyfer y Nadolig a Blwyddyn newydd llwyddiannus!

Ymateb y Brifysgol

Meddai Prifysgol Aberystwyth: “Mae’n Cynllun Gweithredu Cynaliwadwyedd y Brifysgol a gafodd ei gymeradwyo ym mis Ebrill 2017, yn amlinellu cynigion i sicrhau arbedion rheolaidd o £6m yn 2017-18 a £5.4m pellach yn 2018-19. Rydym yn gwneud cynnydd tuag at y targedau hyn ond mae rhagor o waith i’w wneud.

“Mae’r camau hyn yn angenrheidiol er mwyn gwneud y Brifysgol yn fwy gwydn wrth ymateb i’r heriau sy’n wynebu’r sector addysg uwch, i’n galluogi i fuddsoddi yn y dyfodol, a pharhau i gynnig profiad myfyriwr rhagorol ac ymchwil o bwys byd eang.

“Ni fydd y cynigion dan sylw yn arwain at newid sylfaenol yn yr hyn y mae’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn ei gynnig i fyfyrwyr. Mae diogelu’r profiad myfyrwyr – israddedig ac uwchraddedig – yn flaenoriaeth, ac mae’r Brifysgol yn gwbl ymrwymedig i lwyddiant a datblygiad parhaus yr adran gan gynnwys cynnal ei hamgylchedd ymchwil rhagorol.

“Nid oes unrhyw gynlluniau gradd yn cael eu diddymu o ddarpariaeth gyfredol yr adran, ac mae ei hymroddiad at y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn parhau.”