Mae actor adnabyddus wedi ei hel o dŷ bwyta ym Mangor yn dilyn ffrae am archebu sglodion yn Gymraeg.

Yn ôl Yoland Williams fe gafodd ei sarhau am siarad Cymraeg gan staff bwyty Table Table sydd ar gyrion y ddinas.

Ond yn ôl un o reolwyr y bwyty mae Yoland Williams wedi ei wahardd o’r lle am godi ei lais ar staff ac ymddwyn yn haerllug.

Roedd yr actor, sy’n fwyaf adnabyddus am chwarae rhan ‘Teg Morris’ ar Pobol y Cwm, yn nhŷ bwyta Table Table gyda ffrind ddoe.

Pan geisiodd archebu sglodion yn Gymraeg, mae’n dweud i staff y bwyty wrthod ei weini.

Paned… ond dim sglods

“Es i mewn yna ddoe efo ffrind i fi i gael paned o goffi yn wreiddiol,” meddai Yoland Williams wrth golwg360.

“Mi ordron ni ddwy baned o latte a gath hwnnw ei wneud a dyma’r boi oedd y tu ôl i’r bar nôl atom ni a dyma fi’n dweud: ‘Ga i ddau bortion o chips hefyd plîs?’”

Yn ôl Yoland Williams, atebodd y dyn drwy ddweud nad oedd yn deall ac ar ôl i’r actor ailadrodd ei archeb dyma’r barberson yn dweud: ‘Yeah, well I don’t speak Welsh’.

“Dyma fi’n dweud: ‘Can you get somebody that speaks Welsh please’, a dyma ryw foi arall yn dod a fi’n gofyn: ‘Ti’n siarad Cymraeg?’, [ac yntau yn ateb] ‘Ydw, tipyn bach’.

“Dyma fi’n dweud: ‘Reit, ga i ddau bortion o chips plis?’ …

“Wnaeth y ddau gael ryw: ‘Well, I’m not serving him, you serve him.’

“Wedyn mi ddaeth y rheolwr a dyma fi’n dweud yr un stori wrth hwnnw, a fo’n deud: ‘Yeah, well I don’t speak Welsh either.’

“’How hard is it?’, medda’ fi, ‘dau bortion o chips –  most of that is in English anyway, apart from the word ‘dau’, which is ‘two’.”

Yn ôl Yoland Williams, gofynnodd y rheolwr iddo a’i ffrind adael ar ôl i’r gweinydd gwreiddiol ddweud na fyddai’n derbyn eu harcheb.

‘Dim ymddiheuriad’

“Roedd o’n ofnadwy, i feddwl fy mod i yng ngogledd Cymru,” meddai Yoland Williams.

“Dw i’n byw yng Nghaerdydd, a dw i wedi arfer pobol yn siarad Saesneg yn fan ‘no, er bod nhw yng Nghymru.

“Ond i fyny yn y Gogledd, mae’r rhan fwyaf o lefydd dw i’n mynd iddyn nhw, mae pawb o leiaf yn medru cyfri’ i ddau yn Gymraeg, a portion o chips, os oeddwn i wedi gofyn am ‘ddwy bowlen o sglodion os gwelwch chi’n dda’, mewn Cymraeg pur, buaswn i’n hanner dallt…

“Ond roedd y gair ‘dau’ yn ddigon iddo fo fod yn wrth-Gymreig, a’r rheolwr hefyd.

“Cafodd y ddau ohonom ein hebrwng allan drwy’r drws, ac roeddwn i’n meddwl bod hwnna’n warthus i fod yn onest, bod yr iaith Gymraeg yn cael ei sarhau gymaint â hynna…

“Doedd yna ddim ymddiheuriad, ‘tasa’ fod wedi deud, ‘I’m sorry, I don’t speak Welsh, I wish I could’, buasai hwnna wedi bod yn champion ond na, jyst ‘I don’t understand what you’re saying’.”

Bwyty yn gwadu bod yn wrth-Gymreig

Wrth siarad â golwg360, roedd un o reolwyr Table Table ym Mharc Menai ar gyrion Bangor, yn gwadu bod y staff yn wrth-Gymreig a bod y gweinydd wedi ymddiheuro wrth Yoland Williams am ei fod yn methu siarad Cymraeg.

“Mae llawer o’r staff rheoli yn dod o safleoedd eraill, mae rhai o’r rheolwyr ddim yn siarad Cymraeg,” meddai’r rheolwr.

“Dw i’n gwybod na fyddai’r [gweinydd] yn sarhau unrhyw un yn fwriadol… dywedodd o ‘I’m sorry sir, I don’t speak any Welsh, can you say that in English?’.”

Yn ôl y rheolwr, roedd Yoland Williams yn amharchus ac wedi codi ei lais at y gweinydd a’i gyhuddo  o fod yn wrth-Gymreig.

“Dw i’n gwybod am ffaith nad yw’n wrth-Gymreig,” meddai’r rheolwr am yr aelod o staff dan sylw.

“Mae ei deulu i gyd yn Gymry, mae ei gariad yn Gymraes, mae pawb mae e’n adnabod yn Gymry, felly buaswn i yn dweud bod o ddim yn wrth-Gymreig.

“Roedd [Yoland Williams] yn codi ei lais a wnes i ofyn iddo yn gwrtais i adael. Rydym wedi gwahardd y dyn yna o’r dafarn nawr, bydd dim hawl ganddo ddod yma byth eto o achos y ffordd roedd yn siarad â thri aelod o staff. Bydd dim croeso iddo yma.

“Dydy hynny ddim am ei fod wedi archebu yn Gymraeg, mae hynny am ei haerllugrwydd.”

Mae Yoland Williams yn mynnu nad oedd wedi codi ei lais ac yn dweud na fydd yn “tywyllu y lle gwrth-Gymraeg byth eto”.