Mae un o arweinwyr y mudiad ffermio organig yng Nghymru yn dweud bod addewidion Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer y diwydiant amaeth yn cynnig cyfle newydd i arbed y blaned.

“Dw i’n credu bod hwn yn gyfnod cyffrous a phwysig i ffermio yng ngwledydd Prydain,” meddai Patrick Holden, sylfaenydd Ymddiriedolaeth Bwyd Cynaliadwy ac enillydd Gwobr Cyfraniad Eithriadol gwobrau bwyd y BBC eleni.

Mae yna argyfwng yn wynebu’r ddaear meddai wrth i bridd a chynefinoedd gael eu dinistrio oherwydd “ein systemau ffermio a bwyd”.

Canmol Gove

Mae’r ffermwr organig o ardal Llanbed yn hael ei ganmoliaeth i Ysgrifennydd Amaeth Lloegr, Michael Gove, sydd wedi addo system newydd o grantiau yn annog ffermwyr i warchod yr amgylchedd a ffermio’n llai dwys.

Yn ôl Patrick Holden, sy’n ffermio Bwlchywernen Fawr yn Llangybi ac yn cynhyrchu llaeth ar gyfer caws Hafod, dyw e ddim yn cofio’r un Ysgrifennydd Amaeth yn siarad mor glir a gyda syniadau mor radical.

Fe ddywedodd wrth y rhaglen radio World Tonight y byddai llawer o ffermwyr yn croesawu cael symud i systemau ffermio sy’n well i’r amgylchedd os oedd yna achos busnes da tros hynny.

Beth am Gymru?

Dyw Llywodraeth Cymru ddim wedi cyhoeddi eto be fyddan nhw’n ei wneud gyda grantiau amaethyddol wedi Brexit ond maen nhw wedi mynnu mai Cymru fydd yn penderfynu.

Fe fyddai trefn newydd Michael Gove yn Lloegr yn cael gwared ar rai o’r grantiau mwya’ sy’n dibynnu ar faint o dir sydd gan ffermwyr ac yn eu gwobrwyo am “nwyddau cyhoeddus” a “ffermio effeithiol”.