Mae’r heddlu yn apelio am wybodaeth am ymosodiad ym Mhowys yn oriau mân diwrnod cynta’r flwyddyn.

Am tua 1.15 y bore fe gafodd dyn 80 oed anafiadau a bu yn rhaid ei gludo i’r ysbyty mewn ambiwlans.

Yn ddiweddarach fe gafodd dyn 21 oed ei arestio ar amheuaeth o ymosod, cyn cael ei ryddhau – ond mae yn parhau yn destun ymchwiliad.

Mae Heddlu Dyfed Powys yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu drwy ffonio 101.