Mae swyddogion y RSPCA yn ymchwilio wedi iddyn nhw ddod o hyd i neidr farw mewn cyflwr gwaedlyd yng Nghwmbrân.

Fe gafodd y peithon ei darganfod ar stad dai Wool Pitch yn y dref ddiwedd mis Rhagfyr, ac mae RSPCA Cymru bellach wedi cyhoeddi apêl am wybodaeth wrth geisio dod o hyd i berchennog y creadur.

Y gred yw bod yr ymlusgiad wedi’i guro cyn iddo farw.

Cafodd y neidr dwy droedfedd o hyd ei chasglu gan swyddog o’r elusen a’i harchwilio gan filfeddyg a welodd fod ganddi waed a chleisiau o amgylch ei cheg.

“Roedd y neidr druenus hon wedi’i hanafu’n ofnadwy mewn darganfyddiad ffiaidd yn ardal Wool Pitch yng Nghwmbrân,” meddai Izzi Hignell, arolygydd gyda’r RSPCA.

“Roedd hi mewn cyflwr gwael iawn.”