Mae gwreiddiau’r awdures a grëodd y cymeriad Frankenstein,  yn ddwfn yn siroedd Ceredigion a Maesyfed.

A hithau’n 200 mlynedd union yr wythnos hon ers cyhoeddi nofel Mary Shelley, Frankenstein: or, the Modern Prometheus ar Ionawr 1, 1818, mae’r Athro Wyn James o Brifysgol Caerdydd yn dweud ei fod wedi olrhain teulu tad y nofelydd i siroedd Maesyfed a Cheredigion.

“Roedd Mary Shelley yn disgyn oddi wrth fenyw o’r Judith Weaver,” meddai Wyn James wrth golwg360, “ac roedd hi’n dod o Sir Faeyfed ac fe fu farw yn 1746. Roedd hi’n hen fam-gu i Mary Shelley (mam-gu ei thad, William Godwin).”

‘O ardal Tregaron’

Roedd William Godwin yn nofelydd ac awdur gwleidyddol amlwg yn ei ddydd ac yn ffigwr pwysig ym mywyd diwylliannol Llundain a’r cyffiniau, lle cafodd Mary Shelley ei magu.

Wrth ymchwilio i’r achau, mae Wyn James wedi darganfod nodyn gan ddyn o’r enw J H Davies yn dweud bod William Godwin yn disgyn o deulu dylanwadol yn ardal Tregaron, sef teulu’r piwritanydd o’r 17eg ganrif, John Jones, Llwyn-rhys.

“Roedd e’n un o arloeswyr Piwritanaidd ac anghydffurfiol yr ardal, a fferm Llwyn-rhys yn dod yn ganolfan ar gyfer yr Anghydffurfwyr,” meddai.

Bywyd Llundain a Pharis

Fe gafodd Mary Shelley ei geni yn Llundain yn 1797, ac yn 16 oed, fe redodd i ffwrdd i Baris er mwyn priodi’r bardd Rhamantaidd, Percy Bysshe Shelley.

Cafodd ei sbarduno i sgrifennu ei nofel enwog tra oedd hi, ei gŵr, a’r bardd, Lord Byron, ar wyliau yn y Swistir.

Mae’n debyg i’w gŵr a’i gyfaill ei herio i sgrifennu’r stori fwyaf arswydus y gallai, ac ymhen blwyddyn fe gyhoeddodd hi’r nofel o dan y teitl Frankenstein: or, the Modern Prometheus.

“Ymwybodol iawn” o’i gwaed Cymreig

Lle bo’r nofel Frankenstein yn y cwestiwn, mae’r Athro Wyn James yn credu nad oes yna ddylanwadau Cymreig uniongyrchol arni, ond mae’n mynnu bod Mary Shelley’n “ymwybodol iawn” o’i chysylltiad â Chymru.

“Roedd ei thad hi, William Godwin, yn nofelydd ei hunan ac yn sgrifennu rhai nofele mewn cyd-destun Cymreig”, meddai.

“Roedd gan [Percy] Shelley, ei gŵr hi, nifer o gysylltiadau Cymreig hefyd; roedd e’n ymweld ag ardal Cwm Elan yn Sir Faesyfed ac yn gyfeillgar â phobol yn ardal Tremadog.”