Mae disgwyl penderfyniad heddiw ynglŷn â phwy fydd ymgeisydd y Blaid Lafur yn etholaeth Alyn a Glannau Dyfrdwy, hen sedd Carl Sargeant.

Mae tri aelod o’r blaid wedi rhoi eu henwau ymlaen, gyda’r ieuengaf, Jack Sargeant, sy’n 23 oed, yn fab i’r cyn-Aelod Cynulliad a fu farw ddechrau Tachwedd y llynedd.

Y ddau enw arall yw Carolyn Thomas, cynghorydd Sir y Fflint, a Hanna Jones, cynghorydd tref Saltney.

Fe fydd y tri yn herio ei gilydd mewn hystings yng Nghanolfan Ddinesig Cei Connah heno, gyda phleidlais yr aelodau i ddilyn.

Y pleidiau eraill

Mae dwy blaid eisoes wedi dewis eu hymgeiswyr, gyda’r cyn-nyrs, Sarah Atherton, yn ymgeisydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig; a’r cynghorydd lleol, Donna Lalek, ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol.

Nid yw Plaid Cymru wedi dewis ei hymgeisydd eto, ac mae UKIP wedi cadarnhau na fyddan nhw’n cynnig ymgeisydd pe bai Jack Sargeant yn ennill enwebiad y Blaid Lafur.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno enwebiadau yw dydd Mercher, Ionawr 10 (4yp), ac fe fydd yr isetholiad yn cael ei gynnal Chwefror 6.