Mae cwmni gwasanaethau yswiriant wedi cyhoeddi y byddan nhw’n creu 100 o swyddi newydd yng Nghaerdydd.

Mi fydd cwmni Aon yn agor swyddfa ar gyfer eu busnes Affinity UK yn y brifddinas.

Mae’r cwmni’n arbenigo ar ddatblygu, marchnata a gweinyddu rhaglenni yswiriant, ac mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu’r cyhoeddiad gan ddweud y bydd yn ychwanegu at yr “arbenigedd” sydd eisoes yng Nghaerdydd gyda chwmnïau Admiral, Go Compare a Deloitte.

‘Perthynas newydd a deinamig’

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae’r cyhoeddiad yn rhan o ymrwymiad cynllun ‘Ffyniant i Bawb: y Cynllun Gweithredu ar yr Economi’ sy’n datblygu “perthynas newydd a deinamig rhwng y Llywodraeth a busnesau sy’n seiliedig ar yr egwyddor o fuddsoddi arian cyhoeddus at ddiben cymdeithasol”.

“Mae gan Gaerdydd sector gwasanaethau ariannol ac yswiriant ffyniannus a chadarn a all wasanaethu cwsmeriaid mewn modd rhagorol,” meddai Martyn Denney, Rheolwr Gyfarwyddwr Affinity wedyn.

“Roedd y ffactorau hyn yn rhai allweddol wrth i’r cwmni benderfynu agor swyddfa yn y ddinas. Rydym yn edrych ymlaen at ddod â’n busnes i Gymru.”