Mae ffermwr o ogledd Sir Gaerfyrddin yn sôn am y ‘gofid’ a’r ‘rhwystredigaeth’ o golli beic modur pedair olwyn o’i fferm rai wythnosau’n ôl.

Yn ôl Justin Jones, cafodd y cwad ei ddwyn o’i fferm yn ardal Harford ger Pumsaint yn Sir Gaerfyrddin ar “noson gynta’r Ffair Aeaf” yn Llanelwedd a gafodd ei chynnal ar Dachwedd 24, 2017.

Ers hynny mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau fod cyfres o feiciau cwad wedi’u dwyn o’r cyffiniau gan gynnwys rhai o ffermydd ger Llangadog, Myddfai a Ffarmers.

Does dim gwybodaeth wedi dod i’r fei hyd yn hyn am feic cwad Justin Jones a’i deulu, ond mae’r heddlu’n rhybuddio pobol i fod yn “wyliadwrus” am droseddau o’r fath.

‘Rhwystredig’

Ers colli’r cwad mae Justin Jones yn esbonio fod ei deulu wedi symud y beic gan bwysleisio’i werth ariannol a’i werth i’r fferm.

“Mae’r ffaith fod rhywun wedi bod ar y clôs ac yn gwybod yn gywir ble’r oedd y cwad yn ofnadwy,” meddai wrth golwg360 gan ychwanegu fod cloeon wedi’u torri i gael ato.

“Chi’n gweithio’n galed i dalu am rywbeth, ac mae’r cwad mor bwysig i waith ffarmwr,” meddai gan ddweud ei fod yn bwysig i fwydo’r creaduriaid a chadw golwg ar bethau.

“Yn y Winter Fair roedd yna speech mowr am rural crime, ond mae pethau fel hyn yn dal i ddigwydd a neb yn cael eu dal… so ma’ fe yn rhwystredig,” meddai.

Trefniadau diogelwch

Mae’r Rhingyll Andrew Williams yn annog ffermwyr i dynnu allweddi o’r cwadiau ar ôl eu defnyddio, cloi siediau a pheidio â chadw offer mewn mannau heb drefniadau diogelwch.

“Rwy’n ymwybodol fod dwyn beiciau cwad a pheiriannau amaethyddol yn amharu ar waith ffermwyr, yn ogystal â chyfrannu at oblygiadau ariannol,” meddai.

Mae’n ychwanegu fod yr heddlu’n ymchwilio i’r adroddiadau ac yn ymweld â’r ardal yn gyson ynghyd â chynnal cyfarfodydd mewn arwerthiannau amaethyddol.