Mae archfarchnad y Co-op wedi cyhoeddi eu bod yn agor deg siop newydd yng Nghymru eleni, gan greu 200 o swyddi newydd.

Mi fydd y siop gyntaf yn agor yn Rhaeadr Gwy ym Mhowys yn ystod y misoedd nesaf, ac mae cynlluniau i adnewyddu siopau yn Llandeilo, Cyffordd Llandudno, Blaenau Ffestiniog, Y Bala, Dinbych, Tonyrefail, Rhuthun a Chastell-nedd.

Daw’r cyhoeddiad yn rhan o gynlluniau gwerth £160m gan y cwmni i agor 100 o siopau newydd drwy wledydd Prydain a chreu 1,600 o swyddi.

‘Sector ddeinamig’

Mae’r Co-op newydd ddod i gytundeb i gyflenwi siopau’r Grŵp Costcutter ac mae cynnig ar y gweill i brynu Nisa Retail, ond mae’n parhau dan ystyriaeth gan yr Awdurdod Marchnad a Chystadleuaeth ar hyn o bryd.

“Mae’r Co-op yn ymateb yn gadarnhaol i’r newidiadau sy’n codi o fewn y sector ddeinamig hwn,” meddai Jo Whitfield, Prif Weithredwr y cwmni.

“Mae gennym uchelgais i’n siopau fod wrth galon bywydau lleol gan ddod â chymunedau ynghyd yn ogystal â chynnig cynnyrch o safon i’n aelodau a’n cwsmeriaid.”