Ar ddechrau blwyddyn newydd mae cogydd o Fôn wrthi’n paratoi at agor ei fwyty ei hun yn Llundain.

Erbyn dechrau mis Mawrth mae Tomos Parry, sy’n wreiddiol o Landegfan, yn gobeithio agor ei fwyty newydd ‘Brat’ yn Shoreditch.

Mae’n esbonio fod yr enw’n gyfuniad o ddau beth, sef gair arall am ‘ffedog’ yn y Gymraeg ynghyd â hen air Saesneg am y pysgodyn torbwt.

Coginio i’r enwogion

Mae Tomos Parry yn arbenigo mewn bwyd môr, ac mae’n esbonio ei fod wedi’i ysbrydoli gan ddulliau coginio yng Ngwlad y Basg wrth iddyn nhw goginio dros bren.

“Dw i’n gyffrous am y fenter ac yn edrych ymlaen at gael profiad o reoli pob elfen o’r bwyty,” meddai wrth golwg360.

Cyn hyn, bu Tomos Parry yn brif gogydd ym mwyty Kitty Fishers ym Mayfair gan ennill gwobrau am ei grefft ynghyd â choginio i enwogion gan gynnwys Brad Pitt, David Cameron a Pink Floyd.

Mae’n cydnabod pwysigrwydd cynnyrch lleol gan ddweud nad oes dim i guro ar “wystrys o Borthaethwy” a bod “llawer o fwytai da iawn i gael yn Ynys Môn a gogledd Cymru”.