Mae protestiadau yn cael eu cynnal mewn gorsafoedd trenau ledled gwledydd Prydain – yn cynnwys Caerdydd Canolog – wrth i’r rheiny sy’n teithio ar drên wynebu’r cynnydd mwyaf ym mhris tocynnau ers 2013.

Ar gyfartaledd, mae prisau tocynnau ar ddiwrnod gwaith cynta’r flwyddyn wedi codi 3.4%, gyda prhisiau gwasanaethau Trenau Arriva Cymru yn codi 3.3.%.

Mae hynny’n golygu fod pris tocyn tymor ar gyfer siwrne rhwng Castell Nedd a Chaerdydd wedi codi £56 eleni i £1,708.

Mae’n debyg fod aelodau o Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Rheilffordd, Morwrol a Thrafnidiaeth (RMT) yn cynnig losin i deithwyr mewn ambell orsaf fel modd o “felysu pilsen chwerw” y cynnydd.

“Sarhad” i deithiwyr rheilffyrdd

Yn ôl Sephen Joseph, prif weithredwr yr grŵp ‘Ymgyrch am Well Drafnidaeth’, mae’r cynnydd hwn yn “sarhad ar deithwyr”, ac mae grŵp arall, Railfuture, wedi dweud petai prisiau wedi cael eu cysylltu gyda’r Mynegai Pris i Ddefnyddiwr (CPI) ers 2004, yna fe fyddai’r gost 17% yn is erbyn hyn.

Ond mae Adran Trafnidiaeth Llywodraeth San Steffan wedi ymateb trwy ddweud bod y cynnydd mewn prisiau tocynnau eleni yn unol â lefel chwyddiant, gyda 97p allan o bob £1 yn cael ei fuddsoddi’n ôl yn y gwasanaeth trenau.

Mae hyn yn rhan o ymgais y Llwyodraeth i wneud y buddsoddiad mwyaf o’i fath i foderneiddio’r rheilffyrdd ers mwy na chanrif.

“Rydym ni’n buddsoddi yn y gwaith moderneiddio mwyaf o’i fath ar y rheilffyrdd ers oes Fictoria, a hynny er mwyn gwella ein gwasanaethau i’r teithiwr – gan ddarparu trenau cyflymach, gwell a mwy cyfforddus sy’n cynnwys mwy o seddi,” meddai llefarydd.