Un o brif negeseuon seremoni flynyddol ym Mhenllergaer, Abertawe eleni oedd “cefnogaeth” i ymgyrch annibyniaeth Catalwnia.

Daeth criw o bobol ynghyd ar safle Garn Goch ddoe (Ionawr 1) i nodi Brwydr Gŵyr a gafodd ei chynnal yno fwy na 800 mlynedd yn ôl yn 1136. Mae’r seremoni’n nodi llwyddiant y fyddin Gymreig, dan arweiniad Hywel ap Maredudd, yn trechu’r Normaniaid.

Mae’r seremoni’n cael ei chynnal yn flynyddol gyda charreg goffa wedi’i dadorchuddio yno yn 1986 gan Gwynfor Evans, cyn-arweinydd Paid Cymru.

Eleni, Catalwnia

Y neges yn ystod y seremoni eleni oedd eu bod yn cefnogi’r ymgyrchwyr dros annibyniaeth yng Nghatalwnia.

Pleidliau o blaid annibyniaeth enillodd y rhan fwyaf o’r seddi yn dilyn etholiadau yng Nghatalwnia cyn y Nadolig.

Mae Carles Puigdemont, arweinydd Catalwnia, wedi galw ar Lywodraeth Sbaen i adfer ei lywodraeth ac i gydnabod canlyniadau’r etholiadau cenedlaethol.