Mae dros ddwsin o ymgyrchwyr wedi dechrau ar gyfnod o ympryd, a hynny er mwyn pwyso ar Lywodraeth San Steffan i ddatganoli pwerau darlledu i Gymru.

Mae’r 14 ymgyrchydd – sy’n cynnwys Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Heledd Gwyndaf, a’r ymgyrchwyr iaith, Robin Farrar a Steffan Webb – wedi penderfynu mynd heb fwyd am gyfnod o 24 awr.

Daw’r cyhoeddiad ar drothwy cyhoeddi adroddiad adolygiad annibynnol o S4C, sy’n trafod fel un o’i faterion y posiblrwydd o ddatganoli’r cyfeifoldeb dros S4C o San Steffan i’r Cynulliad.

Mae’r ymgyrch hon wedi cael ei drefnu gan Gymdeithas yr Iaith, sy’n galw am yr argymhellion a wnaed gan adroddiad Comisiwn Silk yn 2013, a oedd yn dweud y dylai rheolaeth dros ariannu S4C gael ei drosglwyddo i Lywdoraeth Cymru, i gael eu gweithredu.

Yr ymgyrch am “ddwysáu”

Un ymgyrchydd fydd yn ymprydio heddiw fydd Elfed Wyn Jones, ffermwr 20 oed o Drawsfynydd.

Mae’n dweud y byddai’n fodlon “dwysáu’r ymgyrch” dros yr misoedd nesaf os na fydd Llywodraeth San Steffan yn ymateb yn “gadarnhaol” i’r alwad i ddatganoli’r grym tros ddarlledu.

“O ddiffyg presenoldeb y Gymraeg ar radio masnachol, teledu lleol a’r toriadau difrifol i S4C, i’r diffyg cynnwys Cymreig yn y cyfryngau”, meddai. “Mae’n glir nad yw Llundain yn rheoli’r cyfryngau er budd pobol Cymru.

“Mae angen i’r penderfyniadau dros y cyfryngau yng Nghymru gael eu gwneud gan bobol Cymru.”

Llundain yn anwybyddu’r “Gymraeg a democratiaeth Cymru”

Yn ôl Aled Powell o Wrecsam, sy’n gadeirydd ar grŵp digidol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, mae pobol gyffredin ledled Cymru wedi cael digon o gyfryngau sy’n “anwybyddu’r Gymraeg a democratiaeth Cymru”.

 “Mae’r BBC yn ceisio traflyncu S4C ac wedi cynorthwyo’r Llywodraeth Geidwadol i dorri ein hunig sianel deledu Gymraeg”, meddai.

“Mae hi hefyd yn amlwg bod diffyg democrataidd sylweddol yng Nghymru: mae’r darlledwyr Prydeinig yn drysu pobol drwy adrodd ar yr holl benderfyniadau sy’n effeithio ar Loegr yn unig.

“Nawr yw’r amser i sichrau ein bod ni yng Nghymru yn rheoli ein cyfryngau er lles yr iaith a holl gymunedau Cymru.”

Arolwg

Datgelodd canlyniadau arolwg YouGov y llynedd bod 52% o bobol yn cefnogi rhoi’r cyfrifoldeb dros S4C yn nwylo’r Cynulliad, tra bod 27% eisiau i San Steffan gadw’r grym.

Mae dros hanner cant o bobol eisoes yn gwrthod talu am eu trwydded deledu fel rhan o’r ymgych hon.