Ar ddiwrnod olaf 2017, mae Prif Weinidog Cymru wedi cyhoeddi ei neges ar gyfer y Flwyddyn Newydd ar ei dudalen Twitter.
Yn ei neges ysgrifenedig, dywed Carwyn Jones ei fod yn dymuno “[g]wneud 2018 yn flwyddyn sy’n ein huno ni”.
Dywed ei fod am gael “blwyddyn lle byddwn ni’n dathlu popeth sydd gennym yn gyffredin ac yn gweithio gyda’n gilydd i adeiladu Cymru decach, mwy agored a mwy ffynniannus.”
Gwyliwch y neges gyfan isod:
Gadewch i ni wneud 2018 yn flwyddyn sy’n ein huno ni – blwyddyn lle byddwn ni’n dathlu popeth sydd gennym yn gyffredin ac yn gweithio gyda’n gilydd i adeiladu Cymru decach, mwy agored a mwy ffyniannus pic.twitter.com/tSzyrhb2fG
— Carwyn Jones (@fmwales) December 31, 2017