Bydd Aelod Cynulliad newydd Ukip dros Ogledd Cymru, Mandy Jones, yn cael ei chadarnhau i’w swydd heddiw.

Fe fydd yn tyngu llw yn Swyddfa Gogledd Cymru’r Cynulliad ym Mae Colwyn am 1 o’r gloch.

Mae hi’n cymryd lle Nathan Gill, a ymddiswyddodd echdoe. Gan mai sedd rhanbarthol yn hytrach nag etholaeth oedd ganddo, nid oedd angen is-etholiad gan fod y sawl oedd nesaf ar y rhestr yn yr etholiad diwethaf yn cael cymryd ei le.