Mae Heddlu Gwent wedi cyhoeddi enw dyn 19 oed fu farw mewn gwrthdrawiad yn Nhrefynwy ddydd Mercher.

Roedd  Ashley Thomas yn dod o ardal Brynbuga.

Dim ond un car, Ford Fiesta lliw du, oedd yn gysylltiedig â’r digwyddiad ar Heol Mitchell Troy yn Nhrefynwy tua 12.50yh ar ddydd Mercher, 27 Rhagfyr.

Bu farw Ashley Thomas yn y fan a’r lle. Cafodd merch 15 oed, a oedd yn teithio gydag ef yn y car, ei chludo i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd gyda man anafiadau.

Mae teulu Ashley Thomas yn cael cymorth gan swyddogion cyswllt teulu arbenigol.

Dylai unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu sydd â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101 gan nodi’r cyfeirnod 264 27/12/2017.