Mae barnwr yn yr Uchel Lys wedi dyfarnu y dylai dyn 28 oed, a laddodd cyn-filwr yn dilyn ffrae tu allan i glwb nos ym Mhort Talbot pan oedd yn 17 oed, dreulio pedair blynedd arall yn y carchar.

Cafwyd Shaun McCook, o Bort Talbot a’i gyfaill Adam Drew yn euog o lofruddio Wayne Oglesby, 31, ym mis Rhagfyr 2007 yn dilyn achos yn Llys y Goron Abertawe.

Fe ddyfarnodd y barnwr yn yr achos, Mr Ustus Roderick Evans, y dylai Shaun McCook gael ei garcharu nes ei fod yn ddiogel i’w ryddhau.

Cafodd ei garcharu am isafswm o 14 mlynedd ac fe ddyfarnodd y barnwr na ddylai gael ei ystyried am barôl nes mis Ebrill 2022.

Roedd Shaun McCook wedi dadlau y dylai ei ddedfryd gael ei ostwng gan fod y risg yr oedd yn ei beri wedi lleihau yn sylweddol.

Ond mae barnwr arall wedi dyfarnu yn erbyn Shaun McCook ac mewn dyfarniad a gyhoeddwyd heddiw, dywedodd Mr Ustus Goose nad oedd sail i leihau ei ddedfryd wreiddiol.

Dywedodd Mr Ustus Goose ei fod wedi ystyried tystiolaeth gan swyddogion y carchar a dadleuon gan gyfreithwyr oedd yn cynrychioli Shaun McCook.  Tra bod Shaun McCook wedi gwneud “cynnydd clodwiw” yn y carchar, meddai, nid oedd “gostyngiad sylweddol” yn y risg.

Cafodd Adam Drew, a oedd yn 21 oed ar y pryd, ei garcharu am oes gydag isafswm o 16 mlynedd dan glo.