Cafodd pump o bobl eu cludo i’r ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad rhwng bws a lori yn Y Barri nos Fercher.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r digwyddiad yn Stryd Wyndham yn Y Barri tua 8.45yh neithiwr (27 Rhagfyr).

Dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru bod pump o bobl wedi cael eu cludo i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.

Yn ôl Gwasanaeth Tan ac Achub De Cymru bu’n rhaid defnyddio offer arbennig i dorri un o’r gyrwyr allan o’u cerbyd.

Cafodd Heddlu’r De hefyd eu galw i’r safle.