Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Llyr Gruffydd, wedi ymateb i ymddiswyddiad Nathan Gill fel AC drwy ddweud ei fod yn “ffigwr a oedd yn absennol yn bennaf” yn y Senedd.

Fe gyhoeddodd Nathan Gill ddydd Mercher ei fod yn ymddiswyddo o fod yn Aelod Cynulliad dros ogledd Cymru.

Roedd yr AC wedi bod yn gweithredu yn annibynnol ers gadael grŵp Ukip ym Mae Caerdydd ym mis Gorffennaf 2016, gan barhau’n Aelod Seneddol Ewropeaidd Ukip.

Fe fydd yn parhau’n ASE “er mwyn cael y cytundeb gorau i’r wlad” yn ystod proses Brexit, meddai.

“Gwrthdaro mewnol”

Dywedodd Llyr Gruffydd fod cyfnod Nathan Gill yn y Cynulliad “wedi’i ddominyddu gan wrthdaro mewnol a oedd wedi arwain at ei ddisodli fel arweinydd grŵp Ukip.”

Ychwanegodd: “Alla’i ddim meddwl am un peth positif mae Gill wedi’i wneud yn y Cynulliad i elwa Cymru na rhanbarth gogledd Cymru.

“Dwi’n amau, yn hytrach na chael ei gofio fel AC cyntaf Ukip, na fydd yn cael ei gofio o gwbl.”

Roedd adroddiadau diweddar yn y cyfryngau wedi awgrymu y byddai Nathan Gill yn ymddiswyddo er mwyn elwa’n ariannol o’r Undeb Ewropeaidd, meddai Llyr Gruffydd.

“Fe fyddai’n hynod o ragrithiol os mai dyna’r achos,” meddai.

Ond mae Nathan Gill wedi gwadu’r honiadau gan ddweud mai’r “gwrthwyneb” yw’r gwirionedd.

“Rydw i’n rhoi’r gorau i sicrwydd swydd am y tair blynedd a hanner nesaf er mwyn canolbwyntio ar fy naliadau gwleidyddol am y flwyddyn olaf, allweddol, yn rhan o Senedd Ewrop,” meddai Nathan Gill.

“Tristwch a rhyddhad”

Mewn datganiad dywedodd Nathan Gill bod ei ymddiswyddiad “yn dristwch ac yn rhyddhad” a’i fod wedi gwneud y penderfyniad “ers peth amser, ar sail egwyddor, nid oherwydd pwysau gan neb arall.”

Ychwanegodd ei fod wedi cytuno i oedi cyn ymddiswyddo er mwyn rhoi amser i’w olynydd Mandy Jones, rhagor o amser i baratoi i gymryd ei le.