Mae Heddlu Gwent yn apelio am dystion wedi damwain ffordd ddifrifol ar Rodfa Syr Dafydd, Caerffili, yn ystod oriau mân dydd Mercher (Rhagfyr 27).

Un cerbyd, Ford Fiesta gwyrdd, oedd yn rhan o’r digwyddiad am tua 1.10yb

Fe gafodd teithwraig 25 oed o ardal Croespenmaen, ei chludo i Ysbyty Brenhinol Gwent, gydag anafiadau difrifol.