Mae dehongliad difyr o chwedl Gelert, gan gyfarwyddwraig Gymreig sy’n byw yn Los Angeles, wedi ennill gwobr mewn gŵyl ffilm ym Manceinion.

Cafodd y ffilm Beddgelert gan Medeni Griffiths ei dangos ar S4C yn ddiweddar fel rhan o’r tymor ‘Chwedlau’, cyn i’r ffilm chwarter awr ennill y categori y ‘Ffilm Brydeinig Orau’ yng Ngŵyl Kinofilm.

Mae Beddgelert yn ddehongliad newydd ond realistig o’r stori enwog am gi ffyddlon y tywysog Llywelyn Fawr sy’n aberthu ei fywyd i achub mab ei feistr.

Wedi’i ffilmio ar leoliad yn ardal Dolwyddelan, prif gymeriadau’r ffilm yw’r Tywysog Llywelyn Fawr (Andrew Howard, sydd hefyd wedi serennu yn Taken 3 a Boardwalk Empire, ymhlith cynyrchiadau eraill) a’i ddiweddar wraig Siwan (Catherine Ayers, a fu yn Byw Celwydd ac Un Bore Mercher ar S4C).

“Mae’r tîm cyfan yn falch iawn ein bod wedi ennill y Kinofilm,” meddai Medeni Griffiths, sy’n wreiddiol o Benarth. “Rydyn ni’n eithriadol o hapus bod stori yr ydym ni mor gyfarwydd â hi wedi taro tant gyda phobl yng Nghymru ac yn rhyngwladol – ni allwn ddymuno dim mwy!

“Y syniad y tu ôl i’r gwaith o’r dechrau oedd rhoi gwreiddiau i’r chwedl a chymeriad Llywelyn, ac ar yr un pryd cyfleu awyrgylch hudolus y stori wreiddiol yr ydyn ni i gyd yn ei charu gymaint.

“Mae’r dirwedd mor nodedig a hardd, ac roedden  ni’n ymwybodol iawn bod y tir o’n cwmpas bron yn teimlo fel cymeriad ynddo’i hun yn y stori; roeddem eisiau sicrhau ein bod yn cyfleu hyn oll yn y ffordd fwyaf sinematig bosib.”

Cynhyrchwyd y ffilm gan Benjamin Jenkins. Y cyfansoddwr gwobrwyol Ceiri Torjussen gyfansoddodd y gerddoriaeth, Stuart Biddlecombe oedd y Cyfarwyddwr Ffotograffiaeth (hefyd wedi gweithio ar Casualty a Sherlock, ymysg cynyrchiadau eraill) ac Alys Bevan oedd y tu ôl i’r cyfeiriad gwisgoedd.