Mae prif ras geffylau’r flwyddyn wedi’i gohirio, a hynny oherwydd tywydd garw yng Nghas-gwent.

Fe ddaeth cadarnhad gan Gae Ras Cas-gwent na fyddai ‘Grand National Cymru’ yn cael ei rhedeg, gan fod 6cm o law wedi syrthio ar y cwrs yn ystod y deuddydd diwethaf.

Mae trafodaethau ar y gweill i gynnal y ras wythnos i ddydd Sadwrn, ar Ionawr 6.