Mae llefarydd Plaid Cymru ar addysg yn y Cynulliad, yn beirniadu Llywodraeth Cymru o fod yn “rhy araf” yn mynd ati i greu cofrestr o’r holl blant yng Nghymru sy’n cael eu haddysgu gartref.

Yn ol Llyr Gruffydd, mae angen sefydlu cofrestr fel bod yr awdurdodau yn ymwyodol o’r holl blant yn eu hardal.

Yr oedd adroddiad arfer plant a gyhoeddwyd llynedd yn dilyn marwolaeth Dylan Seabridge yn Sir Benfro yn argymell gosod dyletswydd ar rieni i gofrestru gyda’r awdurdod lleol unrhyw blant sy’n cael eu haddysgu gartref, wedi cael ar ddeall fod y bachgen yn “anweledig” i’r awdurdodau.

Mae’r Comisiynydd Plant hefyd wedi galw am i’r canllawiau presennol gael grym statudol, ac iddyn nhw gynnwys cofrestr orfodol o bob plentyn a addysgir gartref gyda phwerau clir i awdurdodau lleol i sicrhau eu bod yn mynd at y plant ac yn siarad â hwy yn uniongyrchol am eu haddysg.

Fe ddaeth yr alwad hon eto yn ddiweddar gan y Bwrdd Cenedlaethol Diogelu Plant.

“Dw i eisiau gweld gofyniad ar rieni i gofrestru gydag awdurdod lleol y plant sy’n derbyn addysg gartref, a hefyd i sicrhau bod y plant hynny yn cael eu gweld a bod rhywun yn siarad â hwy bob blwyddyn,” meddai Llyr Gruffydd.

“Rydyn ni wedi gweld un corff cyhoeddus ar ôl y llall, mudiadau ac awdurdodau lleol yn galw am hyn, ac y mae adolygiad diweddar ar sail tystiolaeth ar y risgiau i blant sy’n cael eu haddysgu gartref a gomisiynwyd gan y  Bwrdd Cenedlaethol Diogelu Plant ac sy’n  ddamniol o’r status quo, wedi galw ar i blant sy’n cael eu haddysgu gartref eu cofrestru a’u hasesu’n rheolaidd.

“Yr ydym oll yn cydnabod fod gan rieni’r hawl i ddewis addysgu eu plentyn gartref yn hytrach nac mewn ysgol, ac nad yw addysg gartref ynddo’i hun yn ffactor risg o ran camdriniaeth neu esgeulustod.

“Ond tra bod unrhyw bosibilrwydd y gall plentyn ddod yn ‘anweledig’ ac i Dylan Seabridge arall fod yn rhywle, rhaid cael mwy o weithredu gan y Llywodraeth i fynd i’r afael â’r risg hon.”