Mae’r dyn a fu mewn cyflwr difrifol yn Ysbyty Treforys yn dilyn ymosodiad yn Abertawe nos Sadwrn, wedi marw.
Fe ddaeth y cadarnhad gan Heddlu De Cymru fod David Wynne, 39, o ardal Gendros yn y ddinas wedi marw ddiwedd pnawn Gwyl San Steffan.
Yn gynharach yn y dydd, roedd gwr 29 oed o Fforestfach – Kyle Dunbar – wedi ymddangos gerbron llys ynadon Abertawe i ateb cyhuddiad o geisio llofruddio, ac mae wedi’i gadw yn y ddalfa.
Fe gafodd yr heddlu eu galw i ddigwyddiad yng nghanol dinas Abertawe tua 8.40yh nos Sadwrn, Rhagfyr 23.