Mae Heddlu Gogledd Cymru yn adrodd ar Twitter fod nifer o gŵn yn rhedeg yn rhydd ar briffordd yr A55.

Yn ol llif Trydar y llu, mae’r creaduriaid i’w gweld yn crwydro’n ddireol yng nghyffiniau cyffordd 7 ger pentref Gaerwen.