Fe ddaeth cadarnhad gan gwmni Dŵr Cymru fod rhai cannoedd o gartrefi yn ardal Caerdydd yn dal heb gyflenwad, wedi i brif beipen fyrstio.

Mae ardaloedd Cyncoed, Llanedeyrn, Llanrhymni, Penylan a Rhymni heb ddŵr tap oherwydd y digwyddiad.

“Rydyn ni’n delio gyda phiben sydd wedi byrstio,” meddai’r datganiad gan Dŵr Cymru.

“Rydyn ni’n gweithio’n galed er mwyn ceisio datrys y mater, ac er mwyn gwneud yn siŵr y bydd y cyflenwad yn ei ôl yn ddiweddarach heddiw.

“Fe fyddwn ni hefyd yn cadw mewn cysylltiad â’n cwsmeriaid, ond yn y cyfamser, yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra y mae hyn wedi’i achosi.”