Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio ar ôl i ddyn 52 oed gael ei anafu’n ddifrifol yn dilyn ymosodiad yn Llanelli.

Cafodd ei gludo i’r ysbyty yn dilyn y digwyddiad yn Vista Lounge yn y dref am oddeutu 12.30yb (Rhagfyr 24).

Mae dyn 36 oed wedi cael ei arestio ac mae’n cael ei holi yn y ddalfa.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.