Fe ddywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones fod 2017 wedi bod yn “flwyddyn anodd dros ben”, wrth gyflwyno’i neges Nadoligaidd flynyddol.
Cyfeiriodd yn ei neges at golli dau o hoelion wyth y Blaid Lafur yng Nghymru, y cyn-Brif Weinidog Rhodri Morgan a’r cyn-Ysgrifennydd Cymunedau, Carl Sargeant.
Dywedodd: “Rydyn ni wedi colli ffrindiau da y mae colled ar eu hôl bob dydd gennym ni, eu teuluoedd, pawb oedd yn eu hadnabod a’r genedl.
“Fe fydd fy meddyliau gyda phawb sydd heb anwyliaid y Nadolig hwn.”
Carl Sargeant
Marwolaeth Carl Sargeant yw un o’r prif straeon gwleidyddol yng Nghymru eleni.
Cafwyd hyd i’w gorff ddyddiau’n unig ar ôl iddo gael ei ddiswyddo o Gabinet Llywodraeth Cymru yn dilyn honiadau o gamymddwyn rhywiol.
Fe fydd ymchwiliad newydd yn canolbwyntio ar y digwyddiadau cyn marwolaeth yr Aelod Cynulliad dros Alun a Glannau Dyfrdwy fis diwethaf.
Fe fydd ail ymchwiliad yn penderfynu a oedd Carwyn Jones wedi camarwain Aelodau’r Cynulliad wrth ateb cwestiynau am honiadau o fwlio yn Llywodraeth Cymru.
Ugain mlynedd ers datganoli
Wrth gyfeirio at rai o uchafbwyntiau’r flwyddyn, tynnodd Carwyn Jones sylw at ugain mlynedd ers datganoli, cynnal gêm derfynol Cynghrair y Pencampwyr yng Nghaerdydd a lefelau isel o ddiweithdra.
Dywedodd fod 2017 wedi bod yn “flwyddyn brysur, anrhagweladwy ac anodd dros ben ar adegau”.
“Mae ugain mlynedd eleni ers datganoli ac fe gawsom gyfle i edrych yn ôl ar ein cyflawniadau mwyaf – trawsnewid yr economi, ailadeiladu ysgolion a cholegau ac arwain y ffordd ar roddi organau ac ailgylchu.”
Ychwanegodd fod Cymru’n “genedl fach hyderus a chanddi ei llais mawr ei hun bellach”, a bod “llygaid y byd ar Gymru” wrth i Gaerdydd gynnal rownd derfynol y gêm bêl-droed fwyaf ymhlith clybiau Ewrop.
Galwodd ar bobol Cymru i “wneud 2018 yn flwyddyn sy’n ein huno” a “mynd i mewn i’r flwyddyn newydd gyda neges heddwch a chymodi, fel y gallwn gyd-dynnu a gweithio tuag at adeiladu Cymru sy’n well i bawb”.