Mae cyn-ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb, wedi ei gael yn ddieuog o dorri rheolau’r Blaid Geidwadol yn dilyn ymchwiliadau i honiadau o ymddygiad anaddas.

Roedd AS Preseli Penfro wedi gorfod ymddiswyddo o’i swydd fel Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau y llynedd ar ôl iddo gyfaddef anfon negeseuon awgrymog i ferch 19 oed y bu’n ei chyfweld ar gyfer swydd.

Fe ddaeth panel o dan arweiniad QC annibynnol i’r casgliad fod ei ymddygiad yn anaddas, ond nad oedd wedi mynd cyn belled â’i haflonyddu’n rhywiol.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran y Blaid Geidwadol:
“Roedd ei ymddygiad, er nad oedd yn aflonyddu, yn anaddas ac yn syrthio’n fyr o’r safonau y mae’r blaid yn eu disgwyl.

“Mae cadeirydd y blaid wedi atgoffa Mr Crabb o’r angen i lynu at ysbryd a llythyren y cod ymddygiad bob amser. Mae wedi derbyn hyn yn llwyr ac wedi gwneud ymddiheuriad llawn.”

Cyn iddo gael ei benodi’n Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau ym mis Mawrth y llynedd, fe fu Stephen Crabb yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru am ddwy flynedd.

Cymerwyd ei le yn y swydd honno gan Ysgrifennydd presennol Cymru, Alun Cairns, AS Bro Morgannwg.