Mae Plaid Cymru’n galw ar i Gymru gyfan ddod yn Genedl Noddfa – er mwyn helpu ceiswyr lloches a ffoaduriaid i ymgartrefu yn eu cymunedau newydd.

Mae Caerdydd ac Abertawe eisoes yn cael eu cydnabod fel Dinasoedd Noddfa, a dylai gweddill Cymru ddilyn eu hesiampl, yn ôl Siân Gwenllian AC, llefarydd Plaid Cymru dros Lywodraeth Leol.

“Mae ffoaduriaid yng Nghymru yn wynebu anawsterau enfawr,” meddai.

“Efallai eu bod wedi eu gorfodi i ffoi o’u cartrefi dan amgylchiadau trawmatig, a cholli teuluoedd ac anwyliaid. Gall ail-gychwyn mewn gwlad newydd, ddieithr beri ofn, ond gyda’r gefnogaeth briodol, gall ffoaduriaid wneud cyfraniad enfawr i’n cenedl.

“Daeth Abertawe yn Ddinas Noddfa yn 2010, a dilynodd Caerdydd yn 2014. Mae gwaith rhagorol wedi ei wneud yn y ddwy ddinas i helpu ffoaduriaid gynefino ac adeiladu eu bywydau newydd.

“Gyda nifer o drefi llai yn croesawu ffoaduriaid yn ddiweddar, gan gynnwys Aberystwyth ac Arberth, mae arnom angen i Gymru gyfan ddod yn Genedl Noddfa i sicrhau fod cefnogaeth ar gael ar hyd a lled y wlad.

“Byddai dod yn Genedl Noddfa yn anfon neges rymus fod Cymru yn rhoi croeso cynnes i ffoaduriaid.”