Mae mam o bentref Rostryfan ger Caernarfon yn poeni ar ôl clywed fod gwasanaeth bws yn cael ei dorri’n ôl er mwyn arbed arian.

Mae llwybr bws yr 1F rhwng Caernarfon a Phen-y-groes yn galw heibio i bentrefi mynyddig fel Rhostryfan – ond fe ddaeth y cyhoeddiad yr wythnos hon y bydd nifer y bysiau bob dydd yn cael eu cwtogi o 11 i ddim ond pump.

Mae Siwan Mair Thomas yn gweithio i Gyngor Gwynedd ac yn dweud ei fod wedi siomi â’r awdurdod lleol am esgeuluso’r gwasanaeth – gwasanaeth y mae llawer yn “ddibynnol” arno.

“Dw i’n siomedig iawn yn y Cyngor, achos dw i’n teimlo yn yr oes sydd ohoni mae sôn am deithio gwyrdd a ballu,” meddai wrth golwg360.

“Ond dydi’r amserlen ddim yn adlewyrchu eu bod nhw’n trio hybu teithio gwyrdd, achos does dim math o hyblygrwydd yna. Pump gwasanaeth y dydd!

“[Ac] mae sôn ar hyn o bryd bod nhw’n mynd i gau’r feddygfa yn Rhostryfan,” meddai. “Mae hynny’n mynd i greu problemau i bobol hŷn o ran mynd lawr i Gaernarfon i weld meddyg.

“Os ydach chi ddim yn dda, y peth dwytha’ ydach chi isho ydi disgwyl yng Nghaernarfon am hydoedd jest i gael bws adra.”

Torri’n ôl ar fysus eraill… 

Ymysg bysus pwysig eraill fydd yn cael eu diddymu mae’r bws 9.30yb i Gaernarfon, oedd yn cael ei ddefnyddio gan drigolion y pentref i siopa, a bws 7yh oedd llawer yn ei ddefnyddio i fynd allan i gymdeithasu gyda’r nos.

Bellach mae’r bws hwyraf sy’n dychwelyd i Rostryfan yn gadael Caernarfon am 5.40yp, ac mae hyn yn debygol o beri trafferth hefyd i bobol sy’n gweithio tan yn hwyr, yn ôl Siwan Mair Thomas.

Mae’n nodi bod statws bws ysgol disgyblion ysgol uwchradd yn aneglur, ac mae’n pryderu bydd yn rhaid iddyn nhw ddefnyddio’r gwasanaeth 8.35yb.

Pe bai hynny’n digwydd, mae’n ddigon posib y bydd yn rhaid i’r disgyblion sefyll ar y daith oherwydd prinder seddi.

Ymateb Cyngor Gwynedd 

 

Mae Cyngor Gwynedd yn dweud bod newidiadau i wasanaethau bws yn y sir y “tu hwnt” i’w rheolaeth nhw.

Yn dilyn penderfyniad y Comisiynydd Traffig, ni fydd gan gwmni Express Motors drwyddedau i ddarparu bysiau i bobol Gwynedd ar ôl Rhagfyr 31, 2017.

O ganlyniad i hyn, o Ionawr 2 2018 ymlaen bydd y gwasanaethau bysiau cyhoeddus sydd wedi bod yn cael eu darparu gan gwmni Express Motors yn cael eu rhedeg gan gwmnïau eraill ar ran y Cyngor.

“Fel Cyngor, rydan ni’n gwneud popeth posib i sicrhau fod cymaint o wasanaethau bysiau cyhoeddus yn parhau ar gael o Ionawr 2 ymlaen, ond mae prinder yn y nifer o gerbydau addas sydd ar gael gan gwmnïau bysiau eraill yn yr ardal,” meddai Dafydd Wyn Williams, Pennaeth Adran Amgylchedd Cyngor Gwynedd.

“Gallwn gadarnhau bod ein swyddogion yn gweithio’n ddiflino gyda chwmnïau bysiau lleol i ddarparu gwasanaethau ar gyfer trigolion Gwynedd o Ionawr 2 ymlaen.”