Mae wardeiniaid Parc Cenedlaethol Eryri yn rhybuddio bod angen i gerddwyr sydd am fentro i’r mynyddoedd dros yr wyl i fod yn ofalus – yn enwedig wrth i’r tywydd oeri dros y dyddiau nesaf.

Mae nhw’n pwysleisio bod angen i bawb sy’n mynd allan i gerdded ar y mynyddoedd i baratoi yn effeithiol, ac i gadw llygad cyston ar y tywydd, wrth i ragolygon awgrymu y gallai amodau waethygu ar ddiwrnod Nadolig a diwrnod San Steffan.

Mae posiblrwydd cryf y bydd yna eira ar gopaon mynyddoedd Eryri a rhew dan draed wrth i’r gwynt beri i’r tymheredd ostwng i -10 gradd Celsius.

Rhaid “paratoi’n ddigonol”

Yn ôl Carwyn ap Myrddin, Warden yr Wyddfa, mae’n bwysig bod pobol yn paratoi’n “ddigonol” cyn mentro allan, a bod gwisgo’n gynnes ddim yn ddigon o bell ffordd i ymdopi â’r eira a’r rhew dan draed.

“Mae’n hanfodol cario caib rhew, cramponau, gogls sgïo yn ogystal â dillad sbâr, yn ychwanegol at y cit arferol sydd ei angen i gerdded y mynyddoedd,” meddai,

Mae modd gwirio’r tywydd cyn mentro allan ar wefan y Swyddfa Dywydd, ac fe fydd adroddiadau am amodau’r mynyddoedd yn cael eu rhyddhau ar wefan a chyfrif Trydar y Parc Cenedlaethol dros y dyddiau nesaf.