Bydd pedair archfarchnad yn yr Eidal – sydd â bron 300 o siopau rhyngddyn nhw – yn hyrwyddo cig oen Cymru yn yr wythnosau cyn y Nadolig.

Daw hyn yn sgil partneriaeth â chorff marchnata Hybu Cig Cymru (HCC).

Bydd yr archfarchnadoedd sy’n cymryd rhan yn dosbarthu taflenni yn eu siopau a’n darparu samplau er mwyn denu siopwyr Eidalaidd i brynu cig oen dros y Nadolig.

Hefyd, bydd hysbysebion ar gyfer cig oen Cymru yn cael eu cyhoeddi mewn papurau newydd Eidalaidd, a bydd fideos hysbysu yn ymddangos ar gyfryngau cymdeithasol.

Ar dde’r Eidal y mae’r ymgyrch yn canolbwyntio – ardaloedd Campania a Puglia yn bennaf.

Cynyddu ymwybyddiaeth

“Mae’r ffocws ar dde’r Eidal yn gam ymlaen o ran hyrwyddo Cig Oen Cymru PGI yn y wlad,” esboniodd asiant HCC, Jeff Martin.

“Mae pobol yn ne’r Eidal yn bwyta llawer o gig oen, a thrwy weithio â manwerthwyr yn uniongyrchol gallwn gynyddu ymwybyddiaeth o safon a hyblygrwydd Cig Oen Cymru PGI, a hefyd sicrhau cadwyn gyflenwi fyrrach a mwy o reolaeth dros integriti’r cynnyrch.”