Mae’r heddlu wedi enwi pumed person wnaeth farw mewn tŷ yn Ne Powys a losgodd yn ulw ddiwedd mis Hydref.
Bellach mae Heddlu Dyfed-Powys wedi medru adnabod corff Patch Raine, chwech oed, a fu farw yn y tân yr hen ffermdy yn Llangamarch.
Mae’r llu eisoes wedi cyhoeddi enwau pedwar o’r rhai fu farw yn y tân: Just Raine, 11, Reef Raine, 10, Misty Raine, naw, a David Cuthbertson, 68.
Cafodd chweched corff ei ganfod gan swyddogion, ond nid yw’r heddlu wedi medru ei adnabod yn swyddogol hyd yma.
Llwyddodd tri phlentyn, yn 13, 12 a 10 oed i ddianc rhag fflamau’r tân yn oriau man bore Hydref 30.
“Cydymdeimlwn, meddyliwn am, a gweddïwn tros y teulu,” meddai’r Prif Arolygydd Martin Slevin o Heddlu Dyfed-Powys.