Ers i Radio Cymru gyhoeddi pwy fydd yn cyflwyno tonfeddi radio newydd Radio Cymru 2 wythnos yn ôl, mae cryn dipyn o feirniadaeth wedi bod am y dewis o gyflwynwyr.

Mae rhai wedi eu siomi gan y penderfyniad i ddewis Dafydd Du, Caryl Parry Jones, Lisa Gwilym a Huw Stephens – sy’n lleisiau cyfarwydd i donfedd wreiddiol Radio Cymru.

Fe gyhoeddwyd fis diwethaf y bydd yr ail orsaf yn dechrau darlledu’n fyw am ddwyawr bob bore, saith diwrnod yr wythnos, gan ddechrau ddydd Llun, Ionawr 29, 2018.

Er i’r gorfforaeth dreialu ail sianel Radio Cymru Mwy y llynedd, gan ddefnyddio sawl cyflwynydd newydd fel DJ Elan Evans a’r comedïwr Steffan Alun, dim ond un o’r cyflwynwyr hynny wedi’u cynnwys yn arlwy Radio Cymru 2 – Lisa Angharad.

“Ar ôl gweld Radio Cymru Mwy yn cael ei dreialu llynedd, roeddwn i’n gweld bod gennym ni gyfle i weld cymaint o bobol ifanc, wahanol a gwreiddiol yn ei raglenni,” meddai Eiri Angharad, 25, o Gaerdydd.

“Mae’r cyflwynwyr newydd sydd wedi cael eu cyhoeddi ar gyfer hwn, dw i mor siomedig achos dydy e’ ddim yn ddim byd gwahanol i be’ ni’n gweld ar Radio Cymru.

“Does dim un ohonyn nhw’n gyflwynwyr newydd, ac mae e’ jyst yr un hen beth mewn ffordd. Fi’n credu bod e’n arbennig o siomedig i’r bobol ifanc o do iau Cymru.

“Y pwynt ydy, y buasai cyflwynwyr newydd yn sicr yn cynnig rhywbeth gwahanol, cynnig llais gwahanol.

“Dw i’n meddwl bod e’n bwysig hefyd bod chi’n cael pobol ifanc, mae pobol ifanc yn sicr yn mynd i fwynhau clywed rhywun o’r un oed â nhw a dyw hwnna jyst ddim yn rhywbeth sy’n cael ei gynnig yn aml iawn ar y radio. Roedd hwn yn gyfle i wneud hynny.”

Ymateb ar Twitter

Cam “gofalus” Radio Cymru

Mae angen rhoi cyfle i gyflwynwyr Radio Cymru 2, yn ôl  Huw Onllwyn sy’n ysgrifennu colofn wythnosol yn adolygu radio a theledu i gylchgrawn Golwg.

“Dw i’n meddwl bod Radio Cymru yn bod yn ofalus fan hyn ac wedi dewis cael cyflwynwyr mwy profiadol i edrych ar ôl Radio Cymru 2 wrth iddo fe gychwyn,” meddai.

“Pwy ag ŵyr, efallai mewn amser byddan nhw, o weld y peth yn llwyddo a sefydlu ei hun, yn gallu dod ag wynebau hollol newydd i mewn.

“Fi’n siŵr y gallech chi ddadlau’r ffordd arall hefyd… mae modd cymryd risg weithiau, dyna dw i’n dweud yn fy erthygl i Golwg yr wythnos yma… y peth am fitamin D, gyda D am ‘dewr’.

“Pwy ddaru roi’r swydd gyntaf i Chris Evans [BBC Radio 2] er enghraifft? Mae’n rhaid i chi ddechrau rhywle.”

“Y risg ffordd arall yw os wyt ti’n rhoi pobol mae pobol wedi’u harfer eu clywed ar Radio Cymru ar Radio Cymru 2, wedyn yw dy gynulleidfa darged jyst yn mynd i ddweud yn syth o’r cychwyn: ‘Wel wfft i hwnna, dydyn nhw ddim yn siarad gyda fi, yr orsaf yma’.

So mae yna risgiau’r ddwy ffordd.”

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan BBC Cymru.

Mae Huw Onllwyn yn trafod perfformiadau Radio Cymru ac S4C tros y flwyddyn  a fu yn ei golofn yn y rhifyn mawr Nadoligaidd o gylchgrawn Golwg yr wythnos hon, ac yn dewis y gorau a’r gwaethaf o’r hyn gafwyd.