Yn y flwyddyn newydd fe fydd Prif Weinidog Cymru yn wynebu mwy o gwestiynau am Carl Sargeant, wrth i farwolaeth y gwleidydd barhau i daflu cysgod tros y tirlun gwleidyddol.

Dyna farn Golygydd Gwleidyddol ITV Cymru sy’n disgwyl gweld Carwyn Jones yn gadael ei swydd “yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach”.

Roedd Adrian Masters yn siarad gyda chylchgrawn Golwg wrth iddo gyhoeddi llyfr yn trafod ei brofiadau wrth ddilyn hynt a helynt y gwleidyddion eleni.

Ac mae yn rhagweld y bydd cyfnod Carwyn Jones, sy’n Brif Weinidog Cymru ers 2009, yn dod i ben.

Ers yr etholiad mae yn parhau yn gyfnod sigledig gyda dyfodol Theresa May yn San Steffan a Carwyn Jones yn y Bae yn bell o fod yn sicr.

“P’un a yw yn mynd yn y misoedd nesaf neu ddim, bydd e’ yn mynd, dw i’n credu bod hynny nawr yn sicr,” meddai Adrain Masters.

“Dyna beth oedden ni’n amau oedd yn mynd i ddigwydd ta beth, a [marwolaeth Carl Sargeant] fydd ei etifeddiaeth… yn hytrach na’r pethau fyddai wedi bod eisiau [cael ei gofio amdanyn nhw].

“Mae’n anodd iawn dweud beth fydd yn digwydd achos rydym ni’n dal i deimlo’r effeithiau o farwolaeth Carl Sargeant a dydyn ni ddim yn gwybod beth sy’n mynd i ddigwydd.

“Dw i erioed wedi gweld rhywbeth tebyg, mae wedi newid gwleidyddiaeth Cymru yn gyfan gwbl, mae wedi newid y tôn.”

Cysgod Carl Sargeant yn “dominyddu”

Gyda thri ymchwiliad ac isetholiad ar y gorwel yn 2018, mae Adrian Masters yn dweud y bydd amgylchiadau marwolaeth Carl Sargeant yn parhau yn gwmwl tros y tirlun gwleidyddol.

“Dw i’n meddwl y bydd yn dominyddu gwleidyddiaeth Cymru, yn yr un ffordd ag y mae Brexit yn dominyddu gwleidyddiaeth Prydain, heb amheuaeth dyna fydd yn digwydd.

“A bydd yr ymchwiliadau yn codi agweddau newydd iddo ac mae’r pwysau ar y Prif Weinidog yn mynd i barhau, dw i’n meddwl bod hwnna yn sicr.”

Mwy gan Adrian Masters yn y rhifyn mawr Nadoligaidd o gylchgrawn Golwg.