Mae fideo newydd ar y We sy’n ceisio denu pobol o gymunedau amlddiwylliannol i roi addysg Gymraeg i’w plant.

Yn y ffilm mae rhieni o wahanol gefndiroedd yn sôn am y profiad o anfon eu plant i ysgolion Cymraeg yng Nghaerdydd, a’r neges yw bod y Gymraeg yn perthyn i bawb.

Mae’r fideo yn brosiect rhwng Rhieni Dros Addysg Gymraeg, TAG – ymgyrch dros gael ysgol gynradd Gymraeg i ardal Grangetown a Thre-biwt yn y brifddinas – a chwmni cyfathrebu Orchard, ac wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Ers ei gyhoeddi ar y We dridiau yn ôl, mae’r fideo eisoes wedi’i rannu a’i hoffi cannoedd o weithiau ar y cyfryngau cymdeithasol

Mae’r bobol sy’n cymryd rhan yn y ffilm yn cynnwys rhieni Cylch Meithrin Grangetown a’r Bae, disgyblion Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr a phennaeth Ysgol Gynradd Gymraeg Hamadryad, yn Grangetown.

Yn ôl y bobol y tu ôl i’r prosiect, y prif ysgogiad dros greu’r ffilm oedd agor Ysgol Hamadryad am y tro cyntaf yn 2016 – yr ysgol Gymraeg gyntaf i wasanaethu ardaloedd Grangetown a Thre-biwt – dwy o ardaloedd mwyaf aml-ethnig ac amlddiwylliannol Cymru.

Daw ar ôl i Wales Online gyhoeddi erthygl gan newyddiadurwraig, sy’n enedigol o India, sy’n lladd ar y Cymry Cymraeg.

“Neges fod y Gymraeg yn cysylltu diwylliannau”

“Fel ymgyrchwyr iaith, rydym mor falch inni sicrhau ysgol i’r gymuned amlddiwylliannol hon i adeiladu ar bresenoldeb y Cylch Meithrin,” meddai Huw Williams ar ran Ymgyrch TAG.

“Yn ganolog i’r ymgyrch oedd ein dyhead i weld plant o bob cefndir yn derbyn addysg Gymraeg, ac er bod gwaith eto i’w wneud er mwyn lledaenu’r neges, mae’r ffilm yn dangos unwaith i’r gwaith hwnnw gael ei gyflawni, bod y Gymraeg yn agor cyfleoedd, cysylltu diwylliannau ac yn hyrwyddo goddefgarwch.”

Mae Gosia Khan yn byw yn Grangetown, a bu’n un o’r rhai a gymerodd ran yn y ffilm.

“Rwy’n byw yn Grangetown ac rwy’n anfon fy mab i feithrinfa Gymraeg yma,” meddai.

“Rwy’n gobeithio y bydd yn rhugl yn y Gymraeg, fel y mae eisoes yn rhugl mewn Pwyleg, Saesneg ac Urdu. Mae gennym ysgol newydd yn Grangetown, felly pam lai? Mae’n Gymraeg, wrth ymyl y tŷ, ac yn cynnig cyfleoedd gwych iddo. Os nad ydych chi’n anfon eich plentyn yno, dw i ddim yn deall pam!”

Y FIDEO