Bydd Gŵyl Tafwyl 2018 yn gyfle i hyrwyddo’r Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd.

Dyna neges Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Prifwyl y Brifddinas, Ashok Ahir, sy’n dweud bod trefnwyr y ddwy ŵyl yn cydweithio.

Eleni fe ddenodd Tafwyl 38,000 o bobol i fwynhau adloniant Cymraeg yng nghaeau Llandaf, a’r flwyddyn nesaf bydd yr ŵyl yn digwydd ar benwythnos olaf Mehefin yng Nghastell Caerdydd.

Rhyw fis wedi Tafwyl fe fydd Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn cychwyn.

Yn wahanol i’r Eisteddfod, nid oes pris mynediad i Tafwyl – mae popeth am ddim.

Mae’r ŵyl yn cael £40,000 gan Lywodraeth Cymru ac yn denu dros £200,000 mewn grantiau eraill a nawdd at y £250,000 mae hi’n gostio i’w chynnal.

Hefyd mae Cyngor Dinas Caerdydd yn caniatáu i Tafwyl ddefnyddio Castell Caerdydd am ddim.

“Tafwyl yn dylanwadu yn bositif”

Ac er bod gŵyl Tafwyl yn hel nawdd yn y brifddinas er mwyn medru cynnig yr arlwy am ddim, nid yw Ashok Ahir yn credu bod hynny am effeithio ar y gwaith o ddenu arian i goffrau’r Eisteddfod Genedlaethol.

“Mae llwyddiant Tafwyl yn dylanwadu yn bositif ar ein gwaith ni achos mae yn barod wedi helpu codi ymwybyddiaeth am yr iaith Gymraeg yn y brifddinas – felly dw i ddim yn ei weld o mewn ffordd negyddol, ” meddai.

“Y prif beth i ni fel Pwyllgor Gwaith y Steddfod ydy defnyddio Tafwyl fel cyfle i hyrwyddo’r Eisteddfod i’r gynulleidfa sydd yn dod i Tafwyl,” meddai Ashok Ahir sy’n un  o lywodraethwyr ysgol gynradd Treganna.

“Nid dim ond Cymry Cymraeg Caerdydd sy’n dod i Tafwyl, mae ganddon ni lwyth o rieni gyda phlant mewn addysg gynradd sy’n dod i Tafwyl ac yn canu ym mhabell yr ysgolion.

“Mae yna gyfle i ni gael lot mwy o bresenoldeb yn tafwyl, a’i ddefnyddio fel cyfle i hysbysebu’r Steddfod. Mae hynny yn rhywbeth reit dda i ni.

“Ac eto, fedrwch chi ddweud bod rhai Cymry Cymraeg sy’n mynd i’r Steddfod, mae rhai ohonyn nhw wedi bod yn rhan fawr o Tafwyl, fel cyfranwyr neu ddod i fwynhau.

“Ac maen nhw yn dal yn mynd i fod. Mae’r ffaith bod y Steddfod yn digwydd yng Nghaerdydd, dw i ddim yn gweld bod hynny yn stopio pobol rhag mynd i’r ddau ddigwyddiad.”

Mae’r Pwyllgor Gwaith “dros hanner ffordd” at y nod o’r targed o godi £320,000 at gostau cynnal y Brifwyl yng Nghaerdydd.