Mae ymgyrchwyr iaith wedi mynegi pryder am gynllun addysg fydd yn arafu’r twf yn y canran o blant sy’n cael eu dysgu trwy’r Gymraeg.

Mae’r cynllun gweithredu ‘Y Gymraeg mewn Addysg’ a gafodd ei gyhoeddi’r wythnos hon  yn amlinellu amcanion Llywodraeth Cymru o ran twf y ddarpariaeth.

Rhwng 2017-2031 mae disgwyl i’r ganran sy’n cael ei dysgu trwy’r Gymraeg godi gan 0.542% y flwyddyn, ond rhwng 2031-2050 bydd y twf ychydig yn llai, 0.526%.

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, ni fydd plant Cymru oll yn derbyn eu holl addysg trwy’r Gymraeg tan 2170 ar sail y rhagolygon yma.

Annigonol

“O ran twf addysg cyfrwng Cymraeg, mae’r cynlluniau yn y ddogfen yn bell y tu ôl i’r hyn roedd y Llywodraeth wedi addo yn ôl yn 2010,” meddai Cadeirydd grŵp addysg Cymdeithas yr Iaith, Toni Schiavone.

Mae’r ymgyrchydd yn nodi bod yr arafiad yn y twf yn “rhyfedd” ac yn awgrymu nad yw’n “ddigonol” er mwyn sicrhau miliwn o siaradwyr erbyn 2050.

“Mae gennym hyder yn ein cynllun a’r targedau sydd ynddo,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wrth golwg360.