Mae cynlluniau ar y gweill i sefydlu cwrs milfeddygol cyntaf o’i fath yng Nghymru, a hynny ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae’r brifysgol yn sôn am eu bwriad i gydweithio â Choleg Milfeddygol Brenhinol (RVC) yn Llundain i ddatblygu’r radd BVetMed.

Yn rhan o hynny, mi fyddai myfyrwyr yn treulio dwy flynedd gyntaf eu hastudiaethau ym Mhrifysgol Aberystwyth, a’r dair olaf ar gampws Hawkshead yr RVC ger Llundain.

Partneriaeth bosib â’r RVC

Cafodd cyfarfod ei gynnal yn Aberystwyth heddiw rhwng amryw sefydliadau’r diwydiant gan gynnwys Cymdeithas Filfeddygol Prydain.

Yn ôl adroddiadau, byddai sefydlu ysgol filfeddygol newydd sbon yn Aberystwyth yn costio tua £50 miliwn.

Am hynny, byddai creu partneriaeth gyda’r RVC yn “cynnig ateb i’r angen i sicrhau cyflenwad o filfeddygon yng Nghymru,” meddai Dr Robert Abayasekara, cadeirydd Pwyllgor Ansawdd Dysgu’r RVC.

Mae’n ychwanegu y gallai myfyrwyr dreulio’r ddwy flynedd gyntaf yn IBERS Prifysgol Aberystwyth cyn trosglwyddo i Gampws Hawkshead yr RVC am dair blynedd – ond byddai cyfle i ddychwelyd ar leoliadau allanol i Gymru.

Galw am hyfforddiant milfeddygol

“Rydyn ni gyd yn cytuno fel academyddion a gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant fod angen darpariaeth hyfforddiant milfeddygol o ansawdd uchel yng Nghymru,” meddai’r Athro John Grattan, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth.

“Mae’r economi wledig yn dibynnu’n fawr ar gynhyrchu anifeiliaid ond ar hyn o bryd, nid oes unrhyw gyfleoedd hyfforddi milfeddygon yng Nghymru.”