Mae elusen yr RSPCA wedi apelio am wybodaeth yn sgil adroddiadau am grŵp o fechgyn yn cicio neidr farw yng Nghaerdydd.
Cafodd y creadur ei weld ar Heol Archer yn ardal Trelái, ar Ragfyr 15. Dydy hi ddim yn glir os oedd y neidr yn farw cyn cael ei chicio.
“Mae’r achos hwn yn dipyn o ddirgelwch,” meddai swyddog o’r RSPCA, Gemma Black.
“Dydyn ni ddim yn siŵr sut wnaeth y neidr yma gyrraedd stryd yn Nhrelái – a dydyn ni ddim yn siŵr os bu i’r neidr ddianc a marw, neu os ddigwyddodd rhywbeth mwy sinistr.”