Cân gan y grŵp Adwaith o Gaerfyrddin sydd wedi dod i’r brig yn ‘Siart Amgen’ Radio Cymru neithiwr.

Cafodd y gân Lipstick Coch gan Hollie Singer, Gwenllian Anthony a Heledd Owen ei chwarae’n uchafbwynt i raglen Rhys Mwyn neithiwr yn dethol deg o ganeuon ‘amgen’ gorau’r Gymraeg.

Ac mae tipyn o ganmol wedi bod i’r siart ar y cyfryngau cymdeithasol gyda phobol yn canmol yr amrywiaeth.

Yn ôl y DJ Gareth Potter ar Twitter – “mae’r rhestr yma mor gryf – cymaint o dalent sy’n neud pethau gwreiddiol a diddorol yn Gymraeg #siartamgen2017”.

Ac mae cwmni recordio Sain yn ychwanegu fod y siart yn dangos “pa mor wreiddiol a blaengar oedd ac ydi’r sin gerddorol yng Nghymru – gwlad fach yn cyflawni pethau mawr.”

Siart Amgen 2017

  1. Lipstick Coch – Adwaith
  2. Ugain i Un – Datblygu
  3. Merthyr – Eirin Peryglus
  4. Aros o Gwmpas – Omaloma
  5. Popeth ar y record ma wedi cael ei ddwyn – Llwybr Llaethog
  6. Datgysylltu – Los Blancos
  7. Y Ddawns – Ani Glass
  8. Wyf Gymro – Jecsyn Ffeif
  9. 5.99 – Anweledig
  10. Llosgwch y Llosgach – Tystion