Mae dynes o Gaerdydd wedi ei charcharu am smyglo pobol ar ôl iddi gael ei dal yn cludo tri pherson yn ei char i’r Deyrnas Unedig.

Roedd Wendy Thomas wedi cuddio’r ddwy ddynes mewn bag yng nghist ei char, a dyn ar y sedd gefn ond cawson nhw eu darganfod wrth i blismyn wirio ei cherbyd.  Roedd y ddwy ddynes yn anymwybodol pan gawson nhw eu darganfod a’u cludo i’r ysbyty.

Roedd Wendy Thomas, 50 oed, o Glos Horle, Caerdydd wedi ei dal ar Hydref 9 2016, wrth ddychwelyd i Brydain o Ffrainc yng ngorsaf yr Eurotunnel.

Plediodd yn euog i un cyhuddiad o gynorthwyo mewnfudo anghyfreithlon. Yn Llys y Goron Blackfriars ddydd Iau (Rhagfyr 14) cafodd ei dedfrydu i ddwy flynedd a naw mis dan glo.

Cydgynllwynio

Cafodd manylion yr achos eu datgelu heddiw (dydd Llun, 18 Rhagfyr) ar ôl i ddau berson arall -Adriano Bettoja-Allen, 37, a’i wraig Jeanette, 49, o Gasnewydd gael eu dedfrydu am gydgynllwynio â Wendy Thomas a’u rhan mewn dau ymgais i geisio smyglo pobl i’r DU.

Cafodd Adriano Bettoja-Allen ddedfryd o bum mlynedd dan glo ar ôl pledio’n euog i ddau gyhuddiad o gynorthwyo mewnfudo anghyfreithlon.  Cafodd Jeanette Bettoja-Allen ei dedfrydu i 11 mis o garchar, wedi’i ohirio am ddwy flynedd.

“Rydym yn cydweithio’n agos â chydweithwyr Llu’r Ffiniau er mwyn ymchwilio i honiadau o droseddau mewnfudo,” meddai Cyfarwyddwr Cynorthwyol  un o dimau ymchwilio’r Awdurdod Gorfodi Mewnfudo, David Fairclough.

“Fe fyddwn yn eich dal ac yn mynd a chi gerbron y llysoedd,” meddai.

Dylai unrhyw un sydd â manylion am achosion honedig o smyglo pobl ffonio Taclo’r Taclau ar 0800 555 111 yn ddienw.