Mae’r galw am dai yng nghefn gwlad Ceredigion wedi arwain at un cwmni arwerthu’n gosod hysbyseb yn eu ffenest siop yn galw am eiddo “ar frys.”

 

Dros y chwe mis diwethaf mae’r galw am dai mewn ardaloedd gwledig wedi “prysuro” yn ôl Dai Davies, un o arwerthwyr cwmni Evans Bros yn Llanbed.

 

Mae’n esbonio fod dau reswm dros y galw – sef prinder tai fforddiadwy wrth i bobol brynu cartrefi am y tro cyntaf; yn ogystal â chynnydd yn nifer y bobol sy’n symud i’r ardal.

 

Mewnfudo

 

Mae Dai Davies yn esbonio fod mwy o alw am dai fforddiadwy am fod “llai yn cael eu codi o fewn y sir” [Ceredigion].

 

Rheswm arall dros osod yr hysbyseb, meddai, yw bod cynnydd yn nifer y bobol sy’n symud i’r ardal ac yn prynu tai drutach gyda rhywfaint o dir.

 

Mae’n esbonio ei fod wedi gweld cynnydd yn nifer y bobol sy’n symud i’r ardal o ddinasoedd gan gynnwys Caerdydd ynghyd â phobol o Loegr ac o wledydd tramor.

 

“Ni wedi gweld hyn o’r blaen,” meddai wrth golwg360. “Mae’n rhywbeth sydd wastad wedi bod gyda ni a ni wedi’i weld e’n weddol reolaidd yn ystod y genhedlaeth ddiwethaf.”

 

“Yn draddodiadol ni wedi gweld pobol yn symud i’r ardal am fod y tai yn rhatach, ond erbyn hyn dim dyna’r sefyllfa. Maen nhw’n dewis dod yma am eu bod nhw’n gweld yr ardal yn lle neis i fyw gydag ansawdd bywyd da.”

 

Tai fforddiadwy – ‘angen pendant’

 

Yn ôl llefarydd ar ran Cymdeithas yr Iaith, mae angen ystyried mwy o dai fforddiadwy yng Ngheredigion yn rhan o’r Cynllun Datblygu Lleol.

“Dadl Cymdeithas yr Iaith erioed yw bod angen y tai iawn yn y lle iawn ar yr adeg iawn, ac mae’n debyg mai prinder y math o dai mae pobl eu heisiau sydd yn ardal Llanbed,” meddai Bethan Williams, swyddog maes Dyfed Cymdeithas yr Iaith.

 

Mae’n cydnabod fod adroddiad adolygu o Gynllun Datblygu Lleol y sir yn dangos fod “llai o dwf nag oedd wedi’i ddisgwyl ym mhoblogaeth y sir, fel ar draws siroedd gwledig eraill y gorllewin, ac felly bod llai o alw am dai.”

 

“Er nad yw’r holl dai wedi’u hadeiladu yn unol â’r Cynllun Datblygu Lleol, adeiladwyd tai fforddiadwy yn unol â’r Cynllun, felly mae angen pendant am dai fforddiadwy i bobol sydd am aros i fyw a gweithio yn yr ardal.”