Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal ar hyn o bryd i achos y tân yng ngwesty Gateway to Wales yng Nglannau Dyfrdwy yn ystod oriau mân y bore.

Mae 47 o bobol oedd yn aros yno ynghyd â’r staff wedi’u canfod yn ddiogel bob un.

Mae’r ymchwiliad yn cael ei gynnal ar y cyd rhwng y gwasanaeth tân a’r heddlu.

Cafodd y gwasnaethau brys eu galw i’r safle tua 4.30yb a bu criwiau tân o’r Fflint, Wyddgrug, Bwcle, Wrecsam, Caer a Glannau Dyfrdwy yn ymateb iddo.

“Wrth gyrraedd, canfu’r diffoddwyr tân fod to’r adeilad ynghyn,” meddai llefarydd ar ran y gwasanaeth tân.

Mae Cyngor Sir Fflint wedi cadarnhau fod un ysgol ynghau o ganlyniad i’r digwyddiad, sef ysgol gynradd Sealand.