Bydd £10 miliwn ychwanegol yn cael ei fuddsoddi gan Lywodraeth Cymru er mwyn gwireddu’r nod o waredu digartrefedd ymhlith pobol ifanc erbyn 2027.

Bydd Llywodraeth Cymru’n gweithio â phartneriaid gan gynnwys awdurdodau lleol ac asiantaethau digartrefedd, er mwyn mynd i’r afael â’r broblem.

“Rhaid i Gymru arwain y ffordd o ran mynd i’r afael â digartrefedd,” meddai Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones. “Dw i am inni fod yn fentrus.”

“I fynd ati mewn ffyrdd newydd, i ganolbwyntio ar ymyriadau sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn a gweithio gyda phartneriaid i helpu pob ifanc i osgoi sefyllfaoedd argyfwng a’u cefnogi i ddod o hyd i lety sefydlog.”

Digartrefedd

Mae amcangyfrifon gan elusen ddigartrefedd, Llamau, yn awgrymu bod dros 7,000 o bobol ifanc yng Nghymru yn chwilio am help â digartrefedd.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae 11,514 o aelwydydd wedi eu hatal rhag dod yn ddigartref rhwng Ebrill 2015 a diwedd Mehefin 2017.