Mae Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi cynllun heddiw sy’n rhoi’r Gymraeg wrth galon y cwricwlwm addysg er mwyn creu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Ymhen pedair blynedd mae Llywodraeth Cymru’n gobeithio gweld cwricwlwm Cymraeg ar waith i annog disgyblion i ddysgu a defnyddio’r iaith.

Daw hyn yn rhan o gynllun sy’n cael ei gyhoeddi gan Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg, ac mae’n gobeithio annog plant a phobol ifanc i ddefnyddio’r Gymraeg drwy sefydlu patrymau iaith o oedran cynnar.

Mae hefyd am sicrhau bod addysg Gymraeg ar gael i bawb, annog arweinwyr i ddatblygu sgiliau ac arbenigedd iaith a chynyddu nifer y dysgwyr mewn lleoliadau cyfrwng Cymraeg.

‘Addysg yn allweddol’

“P’un a yw ein plant yn mynd i ysgolion Cymraeg neu’n dysgu’r Gymraeg mewn ysgol Saesneg, mae addysg yn allweddol i lwyddiant yr uchelgais hon,” meddai Eluned Morgan.

“Dyna pam mae Cynllun Gweithredu Cymraeg mewn Addysg mor bwysig â pham mae’n flaenoriaeth ar gyfer gweddill tymor y Cynulliad hwn.”

Mae Kirsty Williams, yr Ysgrifennydd Addysg, wedi croesawu’r cynllun gan ddweud fod y Gymraeg yn “rhan annatod” o’r cwricwlwm newydd.

Newid agwedd

“Roeddwn i’n un o lond llaw o blant ar fy ystâd yng Nghaerdydd a gafodd eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg, ac rwy’n cofio’n iawn gerrig yn cael eu taflu at ein bws yn llawn plant ysgol gynradd, yn dangos gwrthwynebiad i ysgol Gymraeg yn y gymdogaeth,” meddai Eluned Morgan a fu’n ddisgybl yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf.

Bellach mae tair ysgol Gymraeg yng Nghaerdydd ac mae’n ychwanegu – “rwy’ wrth fy modd bod yr agwedd tuag at yr iaith wedi newid yn sylfaenol ers pan oeddwn i’n blentyn, a bod gyda ni’r cyfle nawr i adeiladu ar yr ewyllys da yma.”

Ychwanegodd: “Mae cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn gryn her. Mae ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf, yn enwedig y rheini o deuluoedd di-Gymraeg, i gofleidio’r iaith a’i defnyddio ym mhob cyd-destun yn hollbwysig er mwyn cyrraedd y targed hwn.”