Mae’r gwasanaethau brys yn delio â thân difrifol mewn gwesty yng Nglannau Dyfrdwy y bore yma.

Mae lle i gredu fod y tân yng ngwesty Gateway to Wales wedi dechrau yn ystod oriau mân y bore ddydd Llun (Rhagfyr 18) ac mae diffoddwyr tân, swyddogion ambiwlans a’r heddlu ar y safle.

“Rydym ar hyn o bryd yn delio â thân mewn gwesty, cafodd yr alwad ei derbyn am 4.43yb fel galwad o’r gwasanaeth tân,” medai llefarydd ar ran gwasanaeth Ambiwlans Cymru.

Mae’r gwasanaeth tân yn dweud bod gwesteion a staff y gwesty wedi llwyddo i adael yr adeilad yn ddiogel.

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau ar Twitter fod ceir yn cael eu dargyfeirio oddi ar yr A494 o ganlyniad i’r mwg trwchus yn dilyn  y tân ac maen nhw’n rhybuddio bod teithwyr yn wynebu oedi hir ar y ffyrdd.