Mae arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts wedi awgrymu y gallai hi droi ei sylw at ennill sedd yn y Cynulliad ym Mae Caerdydd.

Daw ei sylwadau wrth iddi fynegi ei siom fod yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas wedi gadael grŵp Plaid Cymru i fod yn Aelod Cynulliad Annibynnol ddeufis yn ôl.

Mae’r ddau yn cynrychioli etholaeth Dwyfor Meirionnydd, ond dydy Liz Saville Roberts, aelod seneddol benywaidd cynta’r Blaid, ddim wedi datgan ym mle mae hi’n bwriadu sefyll pe bai hi’n ymgeisio ar gyfer sedd yn y Cynulliad.

Cafodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas ei ethol yn Aelod Cynulliad Plaid Cymru yn 2016 gyda mwyafrif o 6,406 cyn gadael ym mis Hydref yn dilyn anghydweld rhyngddo fe a’r arweinydd yn y Cynulliad, Leanne Wood.

Mae e bellach yn Weinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon yng Nghabinet Llywodraeth Lafur Cymru, yn Ddirprwy i Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates.

Ond yn ôl Liz Saville Roberts, fe ddylai fod wedi rhoi’r gorau i’w sedd a galw is-etholiad.

Etholiad 2021

A hithau’n westai pen-blwydd ar raglen Dewi Llwyd ar Radio Cymru heddiw, dywedodd Liz Saville Roberts: “Cofiwch, fy mhrif wendid i ydi bod yn chwilfrydig. Gawn ni weld a ydi’r cyfle’n codi fan hyn. Mae gennon ni ffasiwn waith fel ag y mae yn y Senedd yn Llundain.

“Dw i ddim mor ifanc â hynny, chwaith, felly mae gen i gwestiwn i fi fy hun beth sy’n ymarferol i’w wneud. Ond mae’n wir i ddweud, yn ymarferol, mi fyddwn i’n dymuno medru gwneud gwahaniaeth i fywydau pobol Cymru, ac yng Nghaerdydd mae hynny.

“Mi fydd Plaid Cymru, yn hwyr neu’n hwyrach, yn chwilio am ymgeisydd newydd felly bydd sawl un am roi ei enw neu ei henw ymlaen yr adeg hynny hefyd.”